Mae'r rhaglen gwasanaethau cyhoeddus modern blaenllaw yn cynnig cyfuniad o arbenigedd academaidd, mewnwelediadau ymarferol, a dysgu arweinyddiaeth i sicrhau bod gan unigolion y wybodaeth i weithredu trawsnewid digidol yn eu sefydliad.

Ynglŷn â'r rhaglen

Mae'r rhaglen hon yn agored i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio'r cofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros 5 diwrnod drwy gydol mis Medi i fis Tachwedd gyda 4 sesiwn wyneb yn wyneb ac 1 sesiwn ar-lein.

Fe'i cynlluniwyd i arwain cyfranogwyr trwy ystod o bynciau digidol sy'n sail i rôl arweinyddiaeth uwch, gyda ffocws ar gefnogi trawsnewid.

Bydd y rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn gallu ymuno â'n rhwydwaith cyn-fyfyrwyr, a fydd yn cysylltu uwch arweinwyr ledled Cymru ac yn darparu mynediad i ddigwyddiadau perthnasol.

"Fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, rwyf wrth fy modd gyda lansiad rhaglen hyfforddi CDPS ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus. Mae'r rhaglen flaengar hon yn cyd-fynd ag ethos Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol drwy flaenoriaethu cynaliadwyedd digidol tymor hir, meithrin cydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, a sicrhau ffocws ar yr iaith Gymraeg a hygyrchedd.

Trwy arfogi arweinwyr y sector cyhoeddus â'r sgiliau i gofleidio technoleg a meddylfryd sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr o fewn dylunio gwasanaethau, nid yn unig mae'r rhaglen hon yn meithrin diwylliant o arloesi mae hefyd yn sicrhau bod ein gweithredoedd heddiw o fudd i genedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru."

– Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Amcanion dysgu

Yn ystod y rhaglen, byddwn yn cynnwys:

  • Diffiniad o drawsnewid digidol: deall ei berthnasedd i flaenoriaethau strategol yng Nghymru
  • Asesu aeddfedrwydd digidol: nodi heriau a'u heffaith ar nodau sefydliadol
  • Mynd i'r afael â heriau cyffredin: mynd i'r afael â phroblemau a rennir ar draws rhwydwaith cymheiriaid
  • Cofleidio dyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr: dysgu sut i fynd i'r afael â phroblemau defnyddwyr trwy ddigidol, gwella effeithlonrwydd ac arbed arian
  • Cynllunio a gweithredu gweithrediadau: datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer trawsnewid sefydliadol
  • Dewch yn rhan o rwydwaith cyn-fyfyrwyr: mynediad i ddigwyddiadau arweinyddiaeth unigryw ar ôl cwblhau rhaglen

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rhaglen hon, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais hon a chyflwyno datganiad personol.

Dylai eich datganiad personol:

  • ddisgrifio eich rôl fel uwch arweinydd yn eich sefydliad
  • esbonio sut rydych chi'n teimlo y byddai'r rhaglen o fudd i chi a'ch sefydliad
  • bod yn glir, yn fanwl, ac yn darparu enghreifftiau penodol o'ch profiadau arwain

Rydym yn croesawu cyflwyniadau ysgrifenedig, fideo neu sain yn Gymraeg a Saesneg.

Rydym yn awgrymu 2 baragraff ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig (ond dim mwy na 1 tudalen A4, ffont maint Arial 12 ar fwlch 1.5 llinell), a dim mwy na 3 munud o ffilm ar gyfer cyflwyniadau fideo neu sain.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu anhawster cyflwyno eich datganiad personol, cysylltwch â ni – learning@digitalpublicservices.gov.wales

Dyddiad cau: 16 Awst 2024 am 11.59yh

Am drafodaeth anffurfiol am y rhaglen, cysylltwch â Lauren Power – lauren.power@digitalpublicservices.gov.wales

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Dengys ymchwil bod dynion yn ymgeisio am swydd os ydynt yn bodloni 60% o'r meini prawf tra bo menywod a phobl eraill sydd ar yr ymylon ar y llaw arall yn tueddu i wneud cais dim ond os ydynt yn bodloni pob un o'r meini prawf.  Felly, os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob maen prawf yn y disgrifiad swydd, parhewch i gysylltu.  Byddem wrth ein boddau yn cael sgwrs â chi a gweld a fyddech chi'n addas ar gyfer y swydd.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.  Rydym yn croesawu cyfle cyfartal beth bynnag fo anabledd, niwroamrywiaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, rhywedd a chyflwyniad rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.

Rydym yn tynnu rhestr fer gan ddefnyddio proses ddall.