Mae CDPS wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gefnogi sefydliadau i roi cynnig ar ysgrifennu triawd fel ffordd o greu cynnwys dwyieithog sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Rydym wedi arwain sesiynau ysgrifennu triawd gyda:
- Cyfoeth Naturiol Cymru i'w helpu i wella'r cynnwys ar gyfer eu cofrestr newydd ar gyfer gwasanaeth rhybuddio llifogydd
- Cadw i'w helpu i fireinio'r cynnwys presennol ar draws eu gwefan
- Prifysgol Abertawe i ailysgrifennu cyfres fer o e-byst ar gyfer darpar fyfyrwyr
Gellir defnyddio ysgrifennu triawd ar gyfer unrhyw fath o gynnwys. Mae'n offeryn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cynnwys a phrosesau sy'n seiliedig ar dasgau. Ond gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer cynnwys marchnata a chyfathrebu hefyd.
Yn ein sesiynau diweddaraf, gwnaethom ysgrifennu triawd ar broses gofrestru a gafodd ei mapio allan fel prototeip yn Figma, ar gyfres o 5 e-bost byr ac ar ychydig dudalennau gwe byr.
Y bobl a gymerodd ran yn y sesiynau oedd:
- dylunydd cynnwys o CDPS
- arbenigwr cynnwys o'r sefydliad partner
- cyfieithydd naill ai gan CDPS neu'r cyfieithydd mewnol o fewn y sefydliad
Mae ysgrifennu triawd yn dwyn ynghyd arbenigedd gwahanol ddisgyblaethau, gyda'r nod a rennir o wneud y ddwy fersiwn o'r cynnwys yn glir ac yn ddefnyddiol.
Mewnwelediadau o'r sesiynau ysgrifennu triawd
Mae pob sesiwn ysgrifennu triawd yn wahanol oherwydd bydd y cynnwys yn cael ei ddylanwadu gan yr hyn sy’n cael ei hysgrifennu, y bobl sy'n cymryd rhan a'r gynulleidfa y maen nhw'n ysgrifennu ar eu cyfer. Mae rhai mewnwelediadau a chanlyniadau cyffredin o hyd, gan gynnwys:
- mae'r ddwy fersiwn o'r cynnwys (Cymraeg a Saesneg) yn cael eu gwella hyd yn oed os yw'r sgwrs yn canolbwyntio mwy ar un iaith
- mae gallu trafod y cynnwys gyda gwahanol arbenigwyr yn ffordd effeithiol o gydweithio gan greu canlyniad cadarnhaol i'r cynnwys a'r defnyddiwr
- nid oes angen i'r fersiwn wedi'i chyfieithu air am air – yn hytrach, dylai cynnwys fod yn gynnil ac yn benodol i'r iaith y mae wedi'i hysgrifennu ynddi fel bod y ddwy fersiwn yn cael ei chyflwyno i'r safon orau
- weithiau mewn sesiwn ysgrifennu triawd dim ond ychydig o ysgrifennu sy'n cael ei wneud wrth i'r cyfranogwyr arbenigol drafod y pwrpas, y defnyddwyr a'r cynnwys yn fanwl cyn cyrraedd rhan ysgrifennu'r broses
- mae cyfieithwyr yn arbenigwyr pwnc sy'n gallu gwella cynnwys yn ystyrlon wrth ddod i mewn i'r broses greu
Nid yw ysgrifennu triawd yn disodli rôl y cyfieithydd. Yn hytrach, mae'n dyrchafu'r rôl honno a'u harbenigedd. Mae sesiynau diweddar wedi bod mor llwyddiannus mae ein partneriaid wedi gofyn am fwy. Byddwn yn cynnal ymchwil gyda'r cyfranogwyr ac yn rhannu'r mewnwelediadau hynny ar ddiwedd y prosiect hefyd.
Drwy ysgrifennu triawd gyda phartneriaid, rydym yn dangos y broses yn ymarferol. Rydym hefyd yn dysgu trwy wneud wrth i ni archwilio'r dull cymharol newydd hwn o greu cynnwys dwyieithog sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr go iawn.