Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi llunio Gweithgor Safonau Digidol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae safonau a chanllawiau sydd wedi'u profi yn eich helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Nid yw'r grŵp wedi'i fwriadu fel grŵp gwneud penderfyniadau ar gyfer mabwysiadu safonau a chanllawiau, ond i sicrhau nad ydym yn ailddyfeisio'r safonau presennol, ac mae unrhyw beth yr ydym yn ei fabwysiadu yn addas at y diben i Gymru.

Cylch gwaith y grŵp

Bydd y grŵp yn:

  • cefnogi'r sector cyhoeddus i fabwysiadu Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru
  • darparu dolen adborth i ailadrodd a gwella'r safonau hyn
  • ceisio, coladu a hwyluso mabwysiadu arfer da, canllawiau a safonau eraill sy'n bodoli eisoes ar draws sectorau, gwledydd ac adrannau eraill y llywodraeth, gan eu gwneud yn berthnasol i Gymru drwy ddarparu cyd-destun neu gyngor ychwanegol
  • eirioli dros flaenoriaethau Cymru mewn deddfwriaeth ac ymgynghoriadau perthnasol yn y DU

Proses gymeradwyo ar gyfer mabwysiadu safonau ac arweiniad eraill

Mae llawer o arweiniad eisoes ar gael. Rydym am osgoi dyblygu lle bo hynny'n bosibl, dysgu gan eraill a'u haddasu i ddiwallu anghenion ein sefydliadau.

Bydd aelodau'r grŵp yn nodi safonau a chanllawiau perthnasol ac yn trafod:

  • y broblem mae'r safon neu'r arweiniad yn ei datrys
  • i  ba raddau y mae angen ei newid neu ei gyd-destunoli i ddiwallu ein hanghenion yng Nghymru, a sut y byddwn yn gwneud hyn

Byddwn yn gofyn am eich adborth cyn argymell bod y safon neu'r arweiniad yn cael eu mabwysiadu.

Bydd canllawiau a safonau mabwysiedig yn cael eu mabwysiadu i mewn i beta yn gyntaf, fel y gall sefydliadau barhau i'w profi'n ymarferol.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch standards@digitalpublicservices.gov.wales.