"Mae'r profiad hwn wedi rhoi'r hyder i ni dreialu ein tîm gwasanaeth Ystwyth ein hunain sy'n cynnwys pobl Awdurdod Cyllid Cymru."
Neil Butt, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu, Awdurdod Cyllid Cymru

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n rhannu ein huchelgais i wneud newid cynaliadwy i wasanaethau yng Nghymru.

Er enghraifft, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Safonau Gwasanaethau Digidol i Gymru

Fel partner, byddwch yn gweithio gyda ni i fodloni Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru.

Mae hyn yn golygu:

  • gweithio yn agored, gan rannu ein dysgu
  • diwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau, yn ogystal ag amcanion eich sefydliad
  • bod yn ystwyth, bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella a dysgu fel ein bod yn tyfu gyda'n gilydd

Beth fyddwch chi'n ei gael

Cyd-weithiwch gyda ni i rannu ein profiad ledled Cymru ar draws y sector cyhoeddus.

Byddwn yn eich helpu i:

  • ganolbwyntio ar anghenion y bobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau
  • ddeall beth mae'r safonau'n ei olygu i'ch sefydliad
  • gynyddu eich gallu digidol gyda chymorth wedi'i deilwra
  • ddatblygu sgiliau digidol a hyder i weithio mewn ffordd Ystwyth
  • gydweithio i gael canlyniadau gwell a chyflymach

Ein dull gweithredu

Mae newid parhaol yn dod o weithio gyda'n gilydd. Rydym am fagu hyder ein partneriaid i wneud pethau'n wahanol, gan fabwysiadu dulliau modern ar draws eu gwasanaethau.

Mae gennym dîm medrus parhaol gyda phrofiad o gyflwyno, dylunio gwasanaeth, cynnyrch, ymchwil defnyddwyr, dylunio cynnwys a dylunio rhyngweithio a thîm o arbenigwyr cyfathrebu a all eich helpu i siarad am yr hyn rydych chi'n ei wneud a'i ddysgu.

Trafodir yr holl geisiadau yng nghyfarfodydd ein tîm arweinyddol ac os gallwn helpu, byddwn yn gweithio gyda chi i drafod canlyniadau, amserlenni, cyllideb a disgwyliadau. Bydd angen ymrwymiad gan eich sefydliad a byddwn yn drafftio cytundeb partneriaeth gyda chi sy'n amlinellu'n glir pwy sy'n gwneud beth.

Os na allwn eich cefnogi gyda'ch cais penodol, efallai y gallwn helpu mewn ffyrdd eraill megis cynnig persbectif amgen, cynnig eich mentora chi neu'ch tîm, neu ddarparu cymorth drwy ein rhaglen hyfforddi neu gymunedau ymarfer.