Fe wnaethom lofnodi cytundeb partneriaeth gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a darparu cefnogaeth i'w Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol.
Nod y rhaglen yw defnyddio atebion digidol i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, ac yn fwy effeithlon ac effeithiol.
2.2.1. Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol
Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr
Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o dechnolegau a chreu a gwreiddio safonau cyffredin ac a rennir mewn digidol, data a thechnoleg
Amcan 6: Camau i helpu busnesau yng Nghymru i ddiwallu anghenion trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus yn well
Pum Ffordd o Weithio: Hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithredu, atal
7 nod llesiant: Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Wrth ymateb i adolygiad annibynnol, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei huchelgais ar gyfer cynllun meddyginiaethau digidol cynhwysfawr ar gyfer Cymru ym mis Medi 2021 a gofynnodd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru sefydlu'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol.
Mae'r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn dod â rhaglenni a phrosiectau at ei gilydd a fydd yn gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru, yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol, trwy ddigidol.
Fel rhan o'n partneriaeth, buom yn gweithio gyda'r tîm i ddeall yr heriau a'r risgiau o gael gwared ar waith papur yn y gwasanaethau canlynol:
Gwasanaethau Presgripsiwn Electronig (EPS) mewn lleoliad gofal sylfaenol - a ddefnyddir gan feddygon teulu a staff anfeddygol sy'n rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, a rheoli meddyginiaethau mewn meddygfeydd a fferyllfeydd
Rhagnodi Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA) mewn lleoliad gofal eilaidd - a ddefnyddir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, a rheoli meddyginiaethau mewn ysbytai
EPS mewn lleoliad gofal sylfaenol
Fe wnaethom ganolbwyntio ar 3 maes:
-
Dosbarthu tocynnau – cleifion sy'n rhoi eu presgripsiynau papur i'r fferyllydd i gasglu eu meddyginiaeth
-
Trawsffiniol – cleifion sydd angen meddyginiaeth wedi'i rhagnodi a'i dosbarthu ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr
-
Practis dosbarthu– practis sy'n rhagnodi ac yn dosbarthu meddyginiaeth i gleifion
Cynhaliwyd cyfweliadau defnyddwyr manwl gyda dros 30 o bobl a chynnal 6 gweithdy yn edrych ar bresgripsiynau ailadroddus, mynediad i gofnodion iechyd a threfnu apwyntiadau.
Gwnaethom rannu crynodeb o'r canfyddiadau a'r opsiynau ar gyfer sut i symud ymlaen gyda'r uwch berchnogion cyfrifol ar gyfer y portffolio cyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer bwrdd y rhaglen gofal sylfaenol, gan roi'r rhesymeg, y data a'r straeon y tu ôl i'r argymhelliad, i gefnogi eu penderfyniadau.
Buom hefyd yn trafod sut y gallai dull profi, dysgu ac ailadrodd weithio ar gyfer pob maes ffocws, yn hytrach na cheisio adnabod un opsiwn pan fydd sawl cyfyngiad ac ansicrwydd.
ePMA mewn lleoliad gofal eilaidd
Disgwylir y bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn symud at ragnodi digidol a gweinyddu meddyginiaethau ac yn caffael ac yn gweithredu rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau (ePMA) fel rhan o'r newid hwn.
Waeth beth yw'r dewis o system ePMA, bydd hyn yn gofyn am newidiadau i lawer o brosesau, tasgau ac o bosibl rolau, ar draws rhagnodi, gweinyddu meddyginiaethau, rheoli a rhyddhau meddyginiaethau a'r hyn sy'n digwydd wedi hynny, ar draws llawer o wahanol safleoedd a lleoliadau gofal arbenigol.
Mae hyn yn dod â chyfleoedd newydd i wella diogelwch, yn ogystal â gwella'r profiad i gleifion a chlinigwyr. Ond mae yna gyfyngiadau hefyd, anghenion defnyddwyr newydd, 'realiti anniben' ffyrdd o weithio o ddydd i ddydd a systemau a phrosesau presennol, rhwystrau, ac anfanteision i'w deall.
Gwnaethom gefnogi'r tîm i ddeall anghenion a safbwyntiau'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, rheoli a derbyn meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru.
Roedd ein hadroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion ynghylch sut i:
-
baratoi ar gyfer y newid
-
diffinio llwyddiant
-
mabwysiadu dulliau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
-
diffinio gofynion clinigol
-
canolbwyntio ar ddefnyddioldeb
-
paratoi'r seilwaith presennol, gan gynnwys wifi a dyfeisiau
Uwchsgilio’r sector iechyd
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, hyfforddodd ein tîm Sgiliau a Galluoedd 150 o bobl yn gweithio yn y sector iechyd ar eu cyrsiau 'Digidol ac Ystwyth', ynghyd â hyfforddiant Ystwyth ar gyfer timau ac arweinwyr.
Darllen mwy
Symud tuag at bresgripsiynau electronig yng Nghymru
Gwella'r broses ragnodi mewn ysbytai drwy flaenoriaethu anghenion defnyddwyr
2.2.2. Cronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol
Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol
Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr
Pum Ffordd o Weithio: Hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithredu, atal
7 nod llesiant: Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Eleni roeddem ar banel craffu'r Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol.
Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r gronfa ac yn edrych ar drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio i ariannu trawsnewid profiad y claf, neu ffyrdd staff o weithio, trwy gymhwyso technoleg ddigidol.