Rydym yn aml yn clywed am dri math o ddylunio:

  • Dylunio rhyngweithio 
  • Dylunio profiad y defnyddwyr (UX). 
  • Dylunio rhyngwyneb defnyddwyr (UI) 

 

Dylunio rhyngweithio

Yn llywodraeth ganolog y DU, mae rôl swydd o'r enw Dylunydd Rhyngweithio. Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn diffinio dyluniad rhyngweithio fel:

Mae dylunydd rhyngweithio yn datrys y ffordd orau o adael i ddefnyddwyr ryngweithio â gwasanaethau, o ran llif cyffredinol ac ar lefel yr elfennau dylunio unigol.

Wrth ddylunio gwasanaethau i ganolbwyntio ar y defnyddiwr, mae dylunio rhyngweithio yn golygu gwybod pethau fel:

  • a yw eich defnyddwyr yn disgwyl gorfod sgrolio, yn hytrach na llithro trwy restr 
  • deall lle mae pobl yn disgwyl clicio ar gyfer y cam nesaf mewn taith

Yn syml, swydd dylunydd rhyngweithio yw helpu person ar hyd ei daith trwy sicrhau bod y penderfyniadau dylunio yn reddfol ac nad ydynt yn gwneud i'r defnyddiwr weithio'n rhy galed.   

Mae llawer o debygrwydd rhwng dylunio rhyngweithio a dylunio UX.  

Darllenwch fwy am ddylunio rhyngweithio

Profiad y defnyddwyr (UX)

Mae’r gwyddonydd gwybyddol, Don Norman, yn derbyn clod am fathu’r term, “profiad defnyddiwr” yn ôl yn y 1990au cynnar, pan oedd yn gweithio i Apple ac yn ei ddiffinio fel: 

 

 

Mae ‘profiad defnyddiwr’ yn cwmpasu pob agwedd rhyngweithio’r defnyddiwr o’r dechrau i'r diwedd, â’r cwmni, ei wasanaethau, a’i gynhyrchion. 

Dysgwch fwy am ddylunio profiad y defnyddwyr (UX) ar wefan y Sefydliad Dylunio Rhyngweithiol.

Rhyngwyneb defnyddwyr (UI)

Mae rhyngwyneb defnyddwyr (UI), yn cyfeirio at yr holl rannau o gynnyrch neu wasanaeth y bydd defnyddiwr yn rhyngweithio â nhw.

Cymharu UX ac UI

Yn aml, defnyddir UX ac UI yn gyfnewidiol. Ond beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt? 

Ffordd syml o gymharu UX ac UI yw cyfeirio at UX fel y ‘pam’, a’r UI fel y ‘sut’. 

Dysgwch fwy am y gwahaniaethau rhwng UX ac UI ar Nielsen Norman Group.