Pryd i ddefnyddio'r dull dilyn trywydd

Gall y dull hwn o brofi fod yn ddefnyddiol i: 

  • weld lle gall pobl fynd ar goll yn ystod taith 
  • deall y ffordd orau o helpu pobl gwblhau eu tasg yn y ffordd hawsaf bosib 

Gallwch ei ddefnyddio i brofi gwefan gyfan neu eich helpu i ddeall pensaernïaeth gwybodaeth gwasanaeth.  

Sut i ddilyn trywydd

Mae dilyn y trywydd (tree testing) yn cynnwys: 

  1. dangos man cychwyn i rywun gwblhau tasg 
  2. gofyn iddyn nhw lle bydden nhw’n clicio i’w helpu i gyrraedd eu nod 
  3. tracio’r daith y byddai’r person yn dewis ei theithio, o’r dudalen gyntaf i gwblhau’r dasg 

Dysgu mwy am ddilyn trywydd