Using quantitative data to see how your product or service is performing is a good way to learn about the behaviours, issues, or pain points of people using your digital services.  

Sut i ddefnyddio adolygiad dadansoddeg

Wrth ddefnyddio dadansoddeg ar gyfer profi, mae'n bwysig ystyried gwybodaeth gyd-destunol i gefnogi'r data. 

Er enghraifft, mae cyfradd bownsio yn dangos faint o bobl sy'n dod i'ch gwefan a 'bownsio' yn ôl i ffwrdd eto, heb glicio ar unrhyw dudalennau eraill ar eich safle.  

Gallai cyfradd bownsio uchel, sy'n golygu bod llawer o bobl ond yn ymweld ag un dudalen o'ch gwefan, fod yn dda neu'n ddrwg, yn dibynnu ar y cyd-destun a'r nod.  

  • Gallai cyfradd bownsio uchel fod yn dda iawn os oes gennych un dudalen i bobl gwblhau tasg benodol y mae pobl wedi'i chanfod yn uniongyrchol. 

  • Os oes llawer o bobl yn dod i'ch gwefan ac yn gadael heb ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano, neu'n mynd i rywle arall am wasanaethau tebyg, gallai hynny fod yn fetrig i olrhain a deall y problemau mae pobl yn eu hwynebu.  

Ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gallai'r rhain fod yn wasanaethau sy'n gystadleuol iawn fel aelodaeth canolfannau hamdden neu faethu. 

Offer ar gyfer adolygiadau dadansoddeg

Gyda theclynnau fel Google Analytics, a'r nifer o becynnau meddalwedd dadansoddeg eraill sydd ar gael, gallwch ddysgu am: 

  • y siwrneiau defnyddiwr y mae pobl yn eu cymryd ar eich safle 
  • pa mor hir y gall pobl dreulio ar bob tudalen neu gydran 
  • pryd mae pobl yn gadael eich safle 
  • darnau defnyddiol eraill o ddata i'ch helpu i ddeall ymddygiad defnyddwyr 

Mae Nielsen Norman Group wedi cyhoeddi cyngor ac arweiniad am ‘three ways to use analytics in user-centred design’.