Dylunio cynnwys yw un o’r rolau swydd sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg diweddar gan LinkedIn. Mae’r sgiliau’n cynnwys

  • edrych ar anghenion defnyddwyr
  • ysgrifennu ar gyfer yr anghenion hynny
  • gwneud cynnwys yn hygyrch
I wneud ein gwaith, mae'n rhaid i ni i gyd ddarllen toreth o bapurau. Mae bron pob un ohonynt yn llawer rhy hir. Mae hyn yn gwastraffu amser, tra bod yn rhaid gwario egni yn chwilio am y pwyntiau hanfodol
Winston Churchill

Defnyddio iaith syml

Mae dylunwyr cynnwys yn osgoi jargon ac yn ysgrifennu mewn brawddegau byrion. Mae ap Hemingway fel ffordd o wella arddull ysgrifennu.

Mae canllaw arddull LLYW.CYMRU yn fan cychwyn da wrth ysgrifennu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae iaith syml yn allweddol wrth ddylunio cynnwys.

Straeon a theithiau defnyddwyr

Dylai dylunwyr cynnwys ddatblygu straeon a theithiau defnyddwyr.

Mae’r rhain yn ffyrdd i ddylunwyr cynnwys ganolbwyntio ar y wybodaeth y mae ei hangen ar ddefnyddiwr i gwblhau tasg.

Edrywchwch ar sut mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi defnyddio’r dull hwn i sicrhau bod ei gwasanaethau’n canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr.

Mae ymchwil defnyddwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â chynnwys yr ONS

Dylunio cynnwys yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

Mae tîm dylunio cynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gorsgyn rhwystrau rhag dylunio cynnwys, gan gynnwys gorfod sefydlu eu hunain fel arbenigwyr yn y sefydliad.

Roedd angen iddyn nhw annog staff i ystyried anghenion defnyddwyr wrth ysgrifennu cynnwys a dilyn canllawiau arddull cyson. Roedd hygyrchedd yn faes arall pwysig yr oedden nhw angen cymorth staff gydag ef.

Mae cyflwyniad yr ONS ganolbwyntio ar sut roedd y tîm wedi cymhwyso egwyddorion dylunio cynnwys i ddwy agwedd ar eu gwaith: bwletinau ystadegol a data cyfrifiad. Mae adnabod pwy yw eu cynulleidfa, ac yna gwneud rhagor o waith ymchwil gyda’r defnyddwyr hyn, wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â chynnwys yr ONS.

 
 

Gwyliwch y weminar

Ymddangosodd y cynnwys hwn am y tro cyntaf yn 2022 fel gweminar am egwyddorion ysgrifennu cynnwys effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.