Nid rhywbeth ar gyfer amser gwely yn unig yw straeon, fel y darganfu Owen Burgess ar brosiect grantiau Chwaraeon Cymru - maen nhw'n hanfodol i fodloni anghenion defnyddwyr go iawn
13 Ebrill 2022
Mae’r straeon amser gwely rwy’n eu darllen i fy merch yn aml yn dechrau gyda’r geiriau “Un tro”. Roeddwn i’n arfer meddwl am straeon yn y cyd-destun hwnnw yn bennaf – ffordd werth chweil o dreulio amser gyda fy mhlentyn. Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi sylweddoli pa mor allweddol yw straeon i fy ngwaith hefyd fel arweinydd dylunio gwasanaethau ar gyfer Chwaraeon Cymru.
Rwy’n rhan o dîm yn Chwaraeon Cymru sydd wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ar brosiect i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau Chwaraeon Cymru. Yr hyn a fu’n ganolog i’r prosiect yw siarad â defnyddwyr presennol a phosibl grantiau i ddeall eu hanghenion ariannu’n well fel clybiau a sefydliadau chwaraeon lleol, er enghraifft.
Chwarae mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Diben Chwaraeon Cymru yw rhoi cyfle i bawb yn y wlad fod yn egnïol trwy chwaraeon. I gyflawni hynny, rydyn ni’n sylweddoli bod rhaid i ni fel sefydliad ganolbwyntio ar yr unigolyn – i adael i anghenion a chymhellion ein defnyddwyr, fel derbynyddion grantiau, arwain ein gweithgarwch. Ond nid mater syml yw cyflawni nod o’r fath, a dyna pam y bu mor ddefnyddiol gweithio gyda sefydliad fel CDPS sydd â phwyslais ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Bu’n werthfawr clywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n ceisio cyllid ar gyfer eu gweithgareddau chwaraeon. Does dim byd gwell na deall beth sy’n bwysig i ddefnyddwyr go iawn. Mae’r ffordd yma o wneud gwaith ymchwil wedi cynhyrchu rhai ’fflachiau o oleuni’ ac wedi dangos bod ymchwil yr un mor werthfawr i wyrdroi eich damcaniaethau ag ydyw i’w cadarnhau.
Staeniau gwair ar eich creps
Er enghraifft, dywedodd un grŵp o fechgyn yn eu harddegau wrthym mai’r her fwyaf iddynt oedd dod o hyd i rywle i chwarae pêl-droed. Gan fy mod yn adnabod yr ardal, fe awgrymais i ddau barc gerllaw. Ymatebodd y bechgyn drwy ddweud na allen nhw chwarae ar laswellt oherwydd ei bod yn bwysig iddyn nhw gael esgidiau ymarfer sy’n edrych fel petaen nhw’n newydd sbon:
"Allwn ni ddim chwarae ar wair oherwydd byddwn ni’n cael staeniau gwair ar ein creps [esgidiau ymarfer]"
Fe ofynnais i i hyfforddwr pêl-fasged a oedd yn gweithio gyda grŵp lleol pam nad oedd wedi gwneud cais am gyllid. Dywedodd ei fod wedi edrych ar wefan Chwaraeon Cymru a gweld “logo Llywodraeth Cymru a’r broses ymgeisio a meddwl, 'Na, ’dyw hynny ddim i fi – does gen i ddim gradd.'"
Lefel ‘rhaid gwneud’
Casglu straeon gan ddefnyddwyr er mwyn deall eu hanghenion yw un yn unig o’r pethau rydw i wedi dysgu eu gwneud trwy weithio gyda sgwad ddigidol CDPS yn ystod y chwe mis diwethaf. Un arall yw symleiddio pethau cymhleth. Er enghraifft, fe fapion ni’r hen broses ymgeisio ar yr offeryn bwrdd gwyn digidol Mural. Trwy wneud hynny, gwelwyd pa mor gymhleth yr oedd cais wedi dod a’r wybodaeth helaeth iawn roedden ni’n gofyn amdani gan ymgeiswyr am grant. Roedd delweddu’r broses wedi ein helpu i’w thorri’n ôl i’r lefel ‘rhaid gwneud’.
Disgwyliwn y bydd gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn annog amrywiaeth ehangach o bobl i wneud cais am grantiau Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, mae eisoes wedi trawsnewid cysyniad o flaen yr oes fel ‘dylunio gwasanaeth’ yn ffyrdd newydd o weithio i’r tîm a’r sefydliad.
Er enghraifft, rydyn ni’n:
- ystyried y bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu fel ‘defnyddwyr’ ac yn ceisio meddwl am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig fel gwasanaethau yn hytrach na ‘phethau’ – newid syml o ran iaith sy’n gweddnewid y persbectif yn llwyr
- gwneud mwy a mwy o waith mewn timau Ystwyth – hynny yw, grwpiau amlddisgyblaethol bach, ymreolaethol sy’n symud ymlaen mewn camau bach, gan brofi ac addasu wrth iddyn nhw fynd
- ceisio adborth gan ddefnyddwyr mewn ffyrdd cyflym a syml, fel trwy alwad ffôn neu fideo, sy’n caniatáu i ni gynnwys ymchwil defnyddwyr mewn mwy o’n gwaith pob dydd
- treulio mwy o amser yn ateb ‘Beth yw’r broblem rydyn ni’n ceisio ei datrys?’ trwy archwilio a phrofi – yn hytrach na neidio’n gyflym i’r ‘modd datrysiad’
- oherwydd yr uchod i gyd, rydyn ni’n fwy cyfforddus o lawer yn rhannu cysyniadau a syniadau’n gynnar ac yna gwella’n barhaus – yn hytrach na theimlo bod angen i ni gael cynnyrch cwbl orffenedig i’w ddangos ar ddiwedd prosiect
Rydyn ni ar gam cynnar o’n stori canolbwyntio ar y defnyddiwr ein hunain yn Chwaraeon Cymru, ond rwy’n gyffrous iawn am y penodau rydyn ni wedi’u hysgrifennu hyd yma.
Mae Owen Burgess yn arweinydd dylunio a datblygu gwasanaethau yn Chwaraeon Cymru
Dywedwch wrthym am eich profiad o wasanaethau grantiau yn y blwch sylwadau isod. Ac os ydych yn gorff chwaraeon a hoffai ymwneud â datblygu gwasanaethau Chwaraeon Cymru, anfonwch neges e-bost atom.
Darllenwch fwy: Ceisiadau sain? Helpu i fwrw’r rhwyd grantiau yn ehangach