Mae’r Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol yn ychwanegu at ganfyddiadau’r cam alffa i fapio llwybr tuag at wasanaethau digidol gwirioneddol gynhwysol ar gyfer Cymru, yn ôl Rick Stock
18 Mawrth 2022
Yr hyn a ddysgon ni o’r cam alffa
Daeth cam alffa (archwiliadol) yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) i ben ym mis Rhagfyr, ac fe roddodd ddigonedd o wybodaeth i ni am sut mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Yn ystod y cam hwn, fe siaradon ni â llawer o bobl – cynrychiolwyr o 20 o sefydliadau sector cyhoeddus amrywiol a 10 is-adran yn y llywodraeth – a chasglu gwybodaeth am 124 o wasanaethau.
Fe amlygon ni rai o ganfyddiadau ein cam alffa yn ein postiad blog diwethaf, ym mis Rhagfyr. Er enghraifft, fe ganfuon ni fod bron hanner y perchnogion gwasanaeth yng Nghymru naill ai heb glywed am y Safonau Gwasanaeth Digidol neu, os oedden nhw wedi clywed amdanynt, nid oeddent wedi’u cymhwyso i ddylunio neu ddarparu eu gwasanaeth.
Fe ganfuon ni hefyd nad oedd bron hanner y gwasanaethau digidol yng Nghymru wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio dull ailadroddus, gam wrth gam. Dim ond 40% o’r gwasanaethau a ddywedodd eu bod yn cynnwys ymchwil defnyddwyr wrth ddatblygu neu weithredu eu gwasanaeth.
Darllenwch fwy am yr 16 o ‘gyfleoedd’ gwasanaeth a amlygon ni yn ein hadroddiad alffa.
Beta: mapio’r ffordd ymlaen
Dechreuodd gam beta (arbrofol) yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol ym mis Ionawr eleni. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cyfnerthu ein canfyddiadau alffa tybiannol i fapio ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru.
Mae tîm yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol yn gweithio’n agos gydag arweinwyr CDPS i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r gwasanaethau y mae gennym ni ddata arnynt eisoes. Byddwn yn siarad â mwy o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ehangu ein cronfa ddata.
Erbyn diwedd y cam beta, rydyn ni’n disgwyl y bydd gennym ddealltwriaeth gryfach o lawer o’r dirwedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r rhwystrau systemig rhag newid pellach.
Byddwn wedi dechrau amlygu meysydd lle y gallwn weithio gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaethau penodol, i gymhwyso dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Dylunio ar gyfer pawb
Yn ystod y cam alffa, clywodd tîm yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol am lawer o waith yn cael ei wneud, yn enwedig yn ystod y pandemig, ym maes ‘cynhwysiant digidol’: dylunio gwasanaethau sy’n hygyrch i bawb. Mae grwpiau a allai gael eu heithrio rhag defnyddio gwasanaethau digidol yn llawn ar hyn o bryd yn cynnwys yr henoed, pobl ar incwm isel a phobl sy’n byw y tu allan i gwmpas band eang.
Ac eto, mae angen o hyd i ni gael darlun cliriach o’r gwaith cynhwysiant hwnnw – ble mae’n cael ei wneud a chan bwy. Mae tîm yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol yn gweithio gyda’r tîm Dyfodol Ffyniannus yn Llywodraeth Cymru a Chymunedau Digidol Cymru i greu cyfeirlyfr o waith cynhwysiant digidol ledled Cymru.
Gweithio’n agored
Yn olaf, mae’r tîm yn rhannu mwy o’r hyn rydyn ni wedi’i wneud ar yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol yn gyhoeddus er mwyn i’n gwaith gael y gwerth ehangaf posibl. Er enghraifft, rydyn ni’n trafod gyda’n partneriaid sut i wneud y Cyfeirlyfr Cynhwysiant Digidol ar gael yn gyhoeddus pan fydd wedi’i gwblhau.
Gwyliwch sioe ddiweddaraf tîm DLR a dweud.
Dilynwch ni ar Twitter, @cdps_cymru, i gael diweddariadau.
Mae Rick Stock yn arwain y gwaith o gyflawni'r Adolygiad o Dirwedd Digidol