Cynnwys

5.3 Mae rhywfaint o gyfatebiaeth â model y dyfodol i’w weld ar draws gofal sylfaenol

Mae fferylliaeth, optometreg a deintyddiaeth wedi mabwysiadu’r cyfeiriad strategol yn gyhoeddus, gan ryddhau eu hymatebion eu hunain sy’n cyd-fynd â Chymru Iachach. Mae fferyllwyr ac optometryddion yn cymryd camau pendant i arallgyfeirio er mwyn cynnig mwy o wasanaethau clinigol mewn gofal sylfaenol. Mae eu contractau darparwr wedi newid i adlewyrchu’r newid hwn a’i gydnabod yn ariannol.

Mae’r meddygfeydd y siaradom â nhw wedi mabwysiadu proses o’r enw ‘llywio gofal’, a gynhelir gan dderbynyddion y practis, fel arfer. Mae’n cynnwys casglu rhai manylion sylfaenol am y rheswm pam mae’r dinesydd yn cysylltu â’r practis fel y gellir ei gyfeirio at yr opsiwn gorau ar gyfer ei anghenion. Gallai hyn olygu annog hunanofal pan fo’n briodol neu ailgyfeirio at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill (fferyllwyr, optometryddion neu ddeintyddion), gwasanaethau brys, gofal cymunedol neu wasanaethau anghlinigol.

Roedd yn ymddangos bod hyn yn fwyaf llwyddiannus pan oedd practisiau’n gallu darparu hyfforddiant ar lywio gofal i’r staff, ochr yn ochr ag offer amrywiol i gefnogi’r broses llywio gofal. Roedd rhai practisiau o’r farn bod llywio gofal yn rhoi dewis i ddinasyddion ynglŷn â’r opsiwn gorau ar eu cyfer, gan gyflawni canlyniadau gwell iddynt ar yr un pryd.

Mae’r practisiau hefyd wedi mabwysiadu model brysbennu ‘ffonio yn gyntaf,’ i raddau helaeth. Mae hyn yn golygu bod y cyswllt cyntaf â chlinigydd practis, fel meddyg teulu, yn digwydd trwy alwad ffôn. Mae hyn yn caniatáu i’r clinigydd siarad â’r dinesydd a chadarnhau a yw yn y sefyllfa orau i ymdrin â’i broblem. Os ydyw, mae llawer o ymgynghoriadau’n cael eu cynnal yn llwyddiannus dros y ffôn. Dim ond y rhai hynny y mae angen iddynt gael eu gweld wyneb yn wyneb sy’n cael eu gwahodd i’r practis.

Digwyddodd y newid hwn i frysbennu dros y ffôn yn bennaf fel ymateb i’r pandemig, am resymau rheoli haint. Fodd bynnag, roedd nifer fach o’r practisiau y siaradom â nhw wedi newid i weithio yn y modd hwn cyn y pandemig, fel ffordd o drin y galw. Mae’r rhan fwyaf o bractisiau wedi darganfod eu bod yn gallu gwneud llawer mwy dros y ffôn nag yr oeddent yn disgwyl.

Yn ddiddorol, nid oedd yr un o’r meddygfeydd y siaradom â nhw wedi dweud eu bod yn gweithio yn y modd hwn oherwydd y Model Gofal Sylfaenol newydd ar gyfer Cymru, ond yn hytrach fel ymateb i’r pandemig a’r heriau sy’n gysylltiedig â rheoli’r galw.

Datgelodd ein cyfweliadau â gweithwyr perthynol i iechyd fod ganddynt y sgiliau a’r awydd i ymwneud mwy ag iechyd cyhoeddus a gofal sylfaenol. Clywsom eu bod yn gweithio gyda dinasyddion ar hyn o bryd dim ond pan fydd iechyd unigolyn eisoes wedi dirywio. Dywedasant eu bod yn dod ar draws sefyllfaoedd yn fynych lle gellid bod wedi cyflawni canlyniadau gwell petaent wedi cael eu cynnwys yn gynt.

Dywedasant y byddent yn croesawu bod yn rhan o waith atal ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl neu ar gael yn uniongyrchol yn y gymuned ar gyfer y rhai hynny y mae arnynt angen cymorth. Mae rhai rolau, fel ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a pharafeddygon, eisoes yn ymwneud â ffyrdd amlbroffesiynol o weithio ochr yn ochr ag ymarfer cyffredinol.

Canfu ein gwaith ymchwil gyda dinasyddion fod rhai eisoes yn ymddwyn mewn ffordd ragweithiol sy’n cefnogi model gofal sylfaenol y dyfodol.

Clywsom (yn ddigymell) sut oedd pobl eisoes yn cymryd cyfrifoldeb yn rhagweithiol am eu hiechyd a’u gofal eu hunain.

Gwnaethant ddisgrifio:

  • gwneud rhyw fath o frysbennu eu hunain, gan ddefnyddio gwybodaeth am eu hiechyd eu hunain ac ymwybyddiaeth o gyflyrau sy’n gysylltiedig â phobl o oedran, rhywedd neu bwysau tebyg
  • mynd i fferyllfa yn gyntaf yn aml er mwyn osgoi apwyntiad meddyg teulu
  • defnyddio dyfeisiau monitro (nid yn gywir bob amser), gyda chyfarwyddyd gan feddyg teulu a hebddo

Nid oedd unrhyw ddinasyddion y siaradom â nhw yn gwrthwynebu cael eu hailgyfeirio at wasanaethau eraill mewn egwyddor, ond adroddodd sawl un am broblemau pan oedd llyw-wyr gofal yn eu practisiau wedi mynnu eu hailgyfeirio.

Roeddent o’r farn bod hyn yn amhriodol gan nad oedd gan y llyw-wyr gofal gymwysterau clinigol, ac ystyriwyd eu bod yn mynd y tu hwnt i gwmpas eu rôl drwy wneud hynny. Rhannodd sawl cyfranogwr straeon am ailgyfeirio amhriodol a sut roedd eu pryderon wedi cael eu cyfiawnhau gan y digwyddiadau a ddilynodd.

Mae’r gost yn achos pryder hefyd pan fydd pobl yn cael eu hailgyfeirio o bractisiau at optegwyr a deintyddion neu’n dewis hunangyfeirio at un o’r darparwyr hyn. Gallai hyn rwystro rhai rhag cael gofal iechyd.

Dywedodd un cyfranogwr wrthym:

“Mae materion yn codi ynglŷn â chost – bydd optegwyr yn codi tâl, ond os dywedwch chi eich bod wedi cael eich ailgyfeirio gan y meddyg, fyddan nhw ddim yn codi tâl. Os nad ydych chi’n gwybod hyn byddwch yn mynd yn llai aml, a phan fydd pethau [problemau iechyd] yn fwy datblygedig. Mae’r pethau yna’n fy mhoeni i”

DINESYDD

Nesaf: Mae ehangu mynediad at gofnodion i ddinasyddion yn cynnig heriau a buddion

Knowledge sharing - cyber security essentials