9 Medi 2021

Cyflwyniad

Yn ein blog blaenorol, trafodon ni sut rydyn ni wedi dechrau coladu cronfa ddata o wasanaethau, ymgysylltu â rhai sy’n gwneud penderfyniadau digidol, a dadansoddi’r data sy’n bodoli eisoes am wasanaethau.

Yn y blog hwn, byddwn ni’n sôn am ein hymgysylltiad â pherchnogion gwasanaethau. Byddwn ni’n trafod sut rydyn ni’n casglu data a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yma am y gwasanaethau unigol a’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n eu rhedeg.

Yna awn ni ati i amlinellu ein camau nesaf, gan edrych ar ein cynlluniau ar gyfer y cam alffa.

Ein methodoleg

Cam cyntaf ein proses oedd dysgu beth oedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau digidol am ei wybod am wasanaethau, er mwyn asesu sut dylen nhw flaenoriaethu meysydd i’w gwella.

Nesaf, cymhathon ni’r wybodaeth hon yn ddau arolwg; y naill yn ddigon cyffredinol ei natur, a’r llall yn benodol i dechnoleg, a hynny er mwyn casglu’r data roedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau digidol am ei wybod. Yn y cam darganfod, rydyn ni’n defnyddio’r arolygon fel modd o ‘ddwfndreiddio’ sampl o 15 o wasanaethau sydd, yn fras, yn cynrychioli’r tirwedd yn ei gyfanrwydd.

Hyd yma, rydyn ni wedi cyfarfod ag oddeutu 10 o berchnogion gwasanaethau ac wedi cwblhau’r arolygon hyn gyda nhw. Ochr yn ochr â chasglu data penodol am fetrigau fel nifer y defnyddwyr a’r gyfradd gwblhau, rydyn ni hefyd wedi bod yn gofyn i berchnogion gwasanaethau am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a beth byddai eu nodau allweddol at y dyfodol. Rydyn ni’n dechrau tynnu at ei gilydd heriau a nodau cyffredin er mwyn llywio’n damcaniaethau, y tybiaethau y mae angen i ni eu rhoi ar brawf, yn ein cam alffa.

Gyda golwg ar welliant parhaus, rydyn ni wedi bod wrthi’n iteru ein harolygon ar sail adborth gan berchnogion gwasanaethau. Rydyn ni wedi dysgu bod angen gallu cwblhau’r arolygon mewn camau, bod angen enghreifftiau clir er mwyn eu gwneud yn berthnasol i amryw o wahanol fathau o wasanaethau, a bod rhaid gallu eu rhannu o fewn timau.

Dros bythefnos olaf y cam darganfod, byddwn ni’n cwblhau’r 15 ‘dwfndreiddiad’ sydd ar y gweill gennym. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym gipolwg ar raddfa fach o gyflwr y gwasanaethau cyhoeddus digidol sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, ac y byddwn wedi derbyn adborth am ein prosesu casglu data gan ystod o berchnogion gwasanaethau sy’n dod ati o safbwyntiau gwahanol.

Deall profiadau perchnogion gwasanaethau

Rydyn ni wedi cael rhai sgyrsiau eithriadol o ddiddorol gyda pherchnogion gwasanaethau yn ein ‘dwfndreiddiadau’, gan rychwantu ystod eang o brofiadau. Rydyn ni wedi siarad â pherchnogion gwasanaethau sy’n cael eu datblygu, gwasanaethau sydd newydd gael eu sefydlu a gwasanaethau sy’n rhedeg ers amser, a hynny ar draws llywodraeth ganol, awdurdodau lleol, iechyd, cyrff hyd braich a’r trydydd sector.

Er i ni siarad â pherchnogion ystod eang o wasanaethau, drwy ein trafodaethau am heriau a chyfleoedd, mae rhai pynciau cyffredin wedi dod i’r amlwg dro ar ôl tro.

Ymhlith rhai o’r heriau cyffredin y clywson ni amdanyn nhw mae:

  • anawsterau o ran cyflogi a chadw unigolion sy’n meddu ar sgiliau datblygu meddalwedd, gyda cholled sylweddol i’r sector preifat o ganlyniad i wahaniaethau cyflog
  • gwybodaeth a sgiliau mewnol cyfyngedig ynghylch seiberddiogelwch, a’r angen o ganlyniad i gyflogi’n allanol i wasanaethu’r maes hwn
  • goresgyn ansicrwydd sefydliadol am elfennau o wasanaethau, neu wasanaethau cyfan, yn symud ar-lein o ganlyniad i’r cynnydd canfyddedig yn llwyth gwaith yr unigolion dan sylw

Mae’r cyfleoedd mae perchnogion gwasanaethau wedi’u crybwyll yn alinio gyda’r themâu a drafodir gan y Safonau Gwasanaethau Digidol i Gymru a safonau’r OECD standards for digital government, gan gynnwys:

Sut mae potensial, drwy ddatblygu cydrannau digidol mewn gwasanaethau, neu greu llwybrau gwasanaethau digidol o’r dechrau i’r diwedd, i wella profiad y defnyddiwr a staff fel ei gilydd

  • y byddai datblygu llyfrgelloedd cydrannau a rennir (yn arbennig ffurflenni digidol a theclynnau dilysu/portholion mewngofnodi) neu systemau a rennir ar draws gwasanaethau cyhoeddus o fudd mawr i berchnogion gwasanaethau
  • ym maes iechyd yn arbennig, bydd y gallu i gleifion gyrchu eu data yn ofyniad hanfodol wrth lunio gwasanaethau yn y dyfodol

Casglu data am wasanaethau

Hyd yma, rydyn ni wedi casglu data am oddeutu dwy ran o dair o’r gwasanaethau yn ein dwfndreiddiadau. Mae’r gwasanaethau hyn yn adlewyrchu’r amrywiaeth ym maes gwasanaethau cyhoeddus digidol Cymru, a hynny ar draws sectorau, defnyddwyr, mathau o gontractio a lefelau digideiddio.

Mae patrymau eisoes yn dod i’r amlwg yn y data o ran yr hyn y gall perchnogion gwasanaethau ei ddarparu i ni, ac yn ddiddorol ddigon, yr hyn na allan nhw ei ddarparu.

Rydyn ni wedi dysgu bod gan berchnogion gwasanaethau fynediad hawdd i ddata ynghylch llunio gwasanaethau, ac adborth defnyddwyr am y gwasanaethau. Fodd bynnag, mae data am gyfeintiau a chost yn fwy anodd ei gyrchu. Mae hyn, yn aml, oherwydd bod y gwasanaeth yn gweithredu ar systemau neu gontractau a rennir ac am fod y gwerthoedd hyn yn anodd eu dadagregu.

Rydym hefyd wedi dysgu bod gwasanaethau’n fwy anodd eu diffinio ym maes iechyd, ac yn aml bod yr un angen defnyddiwr cychwynnol yn arwain at gannoedd o wahanol deithiau. Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn myfyrio sut gallai fod angen i ni addasu ein dull i sicrhau y gallwn ni gasglu data’n effeithiol am wasanaethau gofal iechyd.

Camau nesaf

Dros y 3-4 wythnos nesaf, byddwn ni’n cwblhau cam darganfod y prosiect, ac yn symud i’r cam alffa. Mae dwy brif elfen i’r gwaith hwn o gwblhau’r camau pontio:

1. Datblygu set o allbynnau’r cam darganfod y byddwn ni’n eu rhannu yn ein sesiwn Dangos a Dweud ar ddiwedd y cam darganfod

2. Creu map trywydd i ddangos sut byddwn ni’n barod i ddechrau cam alffa’r gwaith ganol mis Medi

Mae wythnosau prysur o’n blaenau ni i gwblhau’r ddau nod yma, ond rydyn ni’n gyffrous i rannu gyda chi’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a pharatoi i symud ymlaen yn ddi-oed i’r cam alffa!

Os hoffech rannu rhai o'ch profiadau gyda ni, mae croeso i chi gysylltu! Gadewch sylw isod neu gallwch ein trydar ar @cdps_cymru