3 Medi 2021

Yn dilyn ein postiad blog gwadd diweddar gan Caroline Millington o Gyngor Caerffili am eu hymchwil defnyddwyr ynglŷn ag allgáu digidol, mae Izzie Hurrell yn sôn am yr ymchwil defnyddwyr, ffurfio tîm a’r hyn a ddysgwyd. 

Ffurfio partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill

Ni fu erioed adeg bwysicach i ddeall y rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth gael at dechnoleg ddigidol. Mae’r pandemig nid yn unig wedi gwaethygu’r heriau sy’n wynebu’r rhai a oedd eisoes wedi’u hallgáu’n ddigidol, ond hefyd wedi cynyddu’r angen am ryngweithiadau digidol – gan gynyddu nifer y bobl sy’n perthyn i’r categori hwn. Mae ymchwil yn awgrymu ei bod yn debygol bod y trothwy ar gyfer cynhwysiant digidol wedi cael ei godi’n barhaol. Roedden ni’n gwybod bod llwyddiant y gwaith ymchwil hwn yn dibynnu ar gydweithio er mwyn deall anghenion preswylwyr o ddifrif. Felly, roedd y partneriaethau y gallem eu ffurfio gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn hollbwysig. Roedd yr holl awdurdodau lleol a oedd yn ymwneud â’r prosiect yn wynebu heriau tebyg o ran allgáu digidol ac wedi ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru yn unigol. Fodd bynnag, roedd pob un wedi cynnig datrysiad posibl gwahanol. O ganlyniad, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r awdurdodau ddod at ei gilydd yn gyntaf i ddeall y broblem, cyn neidio i amlygu’r datrysiad. 

Cydweithio a ffyrdd o weithio

Roedd y grŵp yn amrywiol iawn. Roedd pob awdurdod eisoes wedi gwneud amrywiaeth o bethau i wella’r sefyllfa, roedd pob un yn cynnal ei wasanaethau’n wahanol, ac roedd y grŵp yn amrywio o ran maint a demograffeg. Roedd gan yr arweinwyr ym mhob ardal gylchoedd gwaith gwahanol iawn. Roedd rhai awdurdodau wedi cydweithio ag eraill o’r blaen, ond nid eraill. Felly, o ystyried yr holl anghenion a ffyrdd o weithio hyn a oedd yn wahanol iawn, sut cychwynnon ni’r perthnasoedd, a chael yr ymgysylltiad a’r gefnogaeth angenrheidiol i ddechrau a chynnal y prosiect ymchwil yn llwyddiannus? Gan weithio o bell, fe ddaethon ni â’r arweinwyr at ei gilydd ar Microsoft Teams i gychwyn pethau. 

Ar ôl sesiwn gyflwyno ddifyr i gael llais pawb yn yr ystafell, fe gytunon ni ar y cwestiwn ymchwil, y dull, sut roedden ni’n mynd i gydweithio a beth fyddai ei angen i gyrraedd preswylwyr. O’r adeg hon ymlaen, fe gyfarfuon ni’n wythnosol i weld sut roedd pethau’n mynd, rhoi cyflwyniadau ar yr hyn a wnaed, a chynllunio ar gyfer yr wythnos nesaf. Trwy’r rhythm rheolaidd hwn o ddal i fyny, datblygodd y tîm berthnasoedd gweithio gwych. Roedd y perthnasoedd hyn yn sicr wedi gwella ansawdd yr allbynnau, yn ogystal â gwneud y prosiect yn brofiad difyr i fod yn rhan ohono yn gyffredinol! Rydych chi’n gwybod eich bod chi’n dîm pan fyddwch yn dechrau creu ychydig o ddefodau a jôcs mewnol. Yn ein hachos ni, roedden ni’n gwneud fersiwn wahanol o’r cyfarchiad isod bob wythnos! 

Beth wnaethon ni 

Mewn pandemig, roedd angen meddwl yn ochrol i gynnal ymchwil defnyddwyr ac ymgysylltu â phreswylwyr ynglŷn â chynhwysiant digidol! Meddyliodd y cydweithwyr yr oedden ni’n gweithio gyda nhw ar draws yr ardal – gweithwyr cymorth cyflogaeth a staff addysg oedolion – am lawer o ffyrdd creadigol o gyrraedd yr ystod eang o breswylwyr yr oedd angen i ni glywed ganddynt. Amlinellir rhai o’r llwybrau isod:

  • cwblhaodd staff, dysgu oedolion yn y gymuned, gweithwyr cymorth cyflogaeth a gweithwyr Ieuenctid yr arolwg dros y ffôn gyda phreswylwyr
  • gofynnodd staff canolfan gyswllt gwestiynau’r arolwg dros y ffôn i unrhyw un a alwodd y cyngor
  • rhoddodd llyfrgelloedd a oedd yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu gopïau ffisegol o’r arolwg i bobl eu cwblhau
  • dosbarthodd amrywiaeth o sefydliadau cymunedol yr arolwg ymhlith eu defnyddwyr gwasanaeth
  • ffoniodd timau gweinyddol gyn-gyfranogwyr mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned a oedd wedi ymddieithrio ers COVID-19
  • rhannodd banciau bwyd yr arolwg â’u cronfa ddata o bobl agored i niwed a’r rhai hynny ar y rhestr warchod

Beth ganfuon ni – maint y broblem

Defnyddiodd y gwaith ymchwil gyfuniad o ddulliau ansoddol a meintiol. Roedd yr arolwg wedi rhoi llawer o wybodaeth i ni am y rhwystrau sy’n wynebu pobl, yna helpodd cyfweliadau a grwpiau ffocws ni i ddeall y rhesymau pam mae’r rhwystrau hyn yn bodoli. Cynhaliwyd yr arolwg dros bedair wythnos, ac fe’i cwblhawyd gan 2,617 o breswylwyr. Fe gawson ni’r canfyddiadau canlynol:

  • dywedodd 8% o’r rhai a arolygwyd nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd o gwbl, ac o’r grŵp hwnnw:
    • dywedodd 33% mai’r rheswm am hynny oedd oherwydd ei bod yn rhy gymhleth a’u bod nhw’n brin o hyder
    • dywedodd 23% nad oedd ganddynt ddiddordeb
    • dywedodd 22% fod y gost yn rhwystr
    • roedd 12% yn credu bod arnyn nhw angen cymorth
    • roedd gan 9% bryderon am breifatrwydd a diogelwch
  • roedd gan 14% o’r ymatebwyr fynediad at ffôn clyfar yn unig
  • dywedodd 6% nad oedd ganddynt fynediad at ddyfais o gwbl
  • nid oedd gan 8% Wi-Fi gartref
  • dywedodd 7% nad oedd ganddynt y sgiliau digidol angenrheidiol i ddefnyddio’r rhyngrwyd. 

Deall pwy yw’r gwahanol grwpiau o bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol

Fe lunion ni bersonâu defnyddwyr ar sail 45 o gyfweliadau, gan hefyd gynnwys gwybodaeth gan diwtoriaid a gweithwyr cymorth cyflogaeth am yr hyn maen nhw’n ei weld a’i glywed yn rheolaidd. Mae’r personâu’n disgrifio pobl go iawn sydd â chefndiroedd, nodau a gwerthoedd, ac fe allwch chi weld y rhain yn yr adroddiad.

Ffyrdd gwell o gynorthwyo preswylwyr

Rhoddodd y gwaith ymchwil ddealltwriaeth ddyfnach o lawer i ni o anghenion preswylwyr o ran cynhwysiant digidol. Gyda’r ddealltwriaeth hon, fe ganolbwyntion ni ar feddwl am ffyrdd gwell o’u cynorthwyo. Defnyddiodd preswylwyr a staff ganfyddiadau’r adroddiad i feddwl am lawer o syniadau gwych i gynorthwyo preswylwyr yn well. Wrth gwrs, mae anghenion preswylwyr yn amrywio’n fawr ar draws gwahanol grwpiau a demograffeg. Felly, mae’n rhaid i’r ymyriadau a awgrymir fod yn ymwybodol o’u cyd-destun lleol a’u cymuned leol. Ymddangosodd fylchau mewn cynlluniau benthyca dyfeisiau; roedd gan un awdurdod lawer o ddyfeisiau, ond flwyddyn yn ddiweddarach doedden nhw ddim wedi pasio’r gwiriadau TG corfforaethol a oedd yn angenrheidiol i’w benthyca o hyd. Fe awgrymon ni ffyrdd o lywio hyn; mae’r ddelwedd isod yn dangos manylion ein cynnig.

Mewn ardaloedd eraill, edrychwyd ar fodel cymorth galw heibio un-i-un yn canolbwyntio ar weithgareddau pob dydd sy’n berthnasol i’r preswyliwr. Mae ein profiad o geisio datrys problemau cymhleth wrth raddfa yn dweud wrthym ei bod yn aml yn anodd deall pa syniadau fydd yn gweithio’n ymarferol heb eu profi nhw yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod syniadau’n berthnasol ac yn cael eu haddasu i gyd-destunau lleol.

Blaenoriaethu newid a graddio llwyddiant

Fe argymhellon ni fod y syniadau a amlygwyd yn cael eu blaenoriaethu ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth. Yng ngham nesaf y prosiect, yn hytrach na chyflwyno syniadau ar draws y rhanbarth, byddan nhw’n cael eu profi gyda phreswylwyr ar raddfa fach i ddeall eu heffaith bosibl. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well i ni o ba syniadau sy’n gweithio’n ymarferol, nid dim ond yn ddamcaniaethol, a bydd yn rhoi’r dystiolaeth a’r hyder i fuddsoddi mewn cynyddu graddfa’r syniadau llwyddiannus yn rhanbarthol.