Pennu disgwyliadau clir a rhoi dewisiadau i'r cyfranogwyr
Gall gynnal ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg deimlo’n anodd, yn enwedig os nad ydych yn teimlo'n hyderus neu os nad oes gennych y sgiliau i wneud y cyfan yn rhugl yn y Gymraeg.
Ond mae cyfranogwyr yn aml yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth gynnal ymchwil a dylunio gwasanaethau.
Trafodwch yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud ymlaen llaw, rhowch wahanol opsiynau iddyn nhw, a gadewch iddyn nhw benderfynu beth sydd orau ganddyn nhw. Gyda’ch gilydd fel y gallwch chi ddod o hyd i'r ffordd sy'n gweithio i'r ddau barti a'r hyn rydych chi'n gyffyrddus ag ef.
Er enghraifft, efallai y byddai'n well ganddynt:
- brofi rhywbeth yn Gymraeg wrth ei drafod yn Saesneg
- defnyddio dim ond Cymraeg neu Saesneg
- trafod pwnc penodol mewn un iaith
Byddwch yn onest gyda'ch cyfranogwr a phennu disgwyliadau clir ymlaen llaw.
Recriwtio yn gynnar ac yn aml
Mae recriwtio cyfranogwyr ymchwil yn cymryd amser, yn enwedig os yw'r pwnc neu'r meini prawf yn arbenigol.
Ystyriwch sut i recriwtio nifer deg ac ystod o gyfranogwyr er mwyn osgoi rhagfarn. Mae'n ddefnyddiol anelu at geisio cael o leiaf 1 defnyddiwr Cymraeg ym mhob cylch ymchwil.
Rhowch ddigon o amser ac adnoddau ar gyfer cynlluniau cyflawni i gefnogi recriwtio. Byddwch yn rhagweithiol a dechreuwch recriwtio cyn gynted â phosibl. Manteisiwch ar bob cyfle i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer eich ymchwil neu banel defnyddwyr.
Os na allwch ddod o hyd i bobl sy'n defnyddio eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth ac sy'n siarad Cymraeg, gallwch brofi gyda phobl sy'n deall Cymraeg. Fe'i gelwir yn ddefnyddwyr procsi. Cofiwch na fydd yr adborth a gewch ganddynt yn adlewyrchu yn llawn brofiad y defnyddwyr.
Sgrinio ar gyfer dewisiadau iaith
Pan fyddwch yn recriwtio cyfranogwyr ar gyfer eich ymchwil, bydd angen i chi ddeall eu dewisiadau iaith.
Dylech holi am eu hyfedredd yn y Gymraeg fel y gallwch gael mewnwelediadau perthnasol, ac addasu i'w hanghenion.
Canolbwyntiwch ar ystod o fathau o ‘bersona’ Cymraeg yn ystod recriwtio, a chynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'n ddwyieithog. Gofynnwch gwestiynau sgrinio penodol i ddysgu am eu dewis iaith:
- yn eu bywyd bob dydd
- pan yn defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau
Rhowch wybod iddynt ymlaen llaw os yw cydweithiwr yn eich helpu yn y sesiwn, gan gynnwys cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Efallai na fyddan nhw'n gyfforddus gyda rhywun yn cyfieithu'r hyn maen nhw'n ei ddweud.
Efallai y byddwch am eu sicrhau ei bod yn iawn siarad yn Gymraeg, Saesneg, neu gymysgedd (Wenglish).
Trafodwch y sesiwn gyda'ch cyfranogwyr, gan gynnwys yr hyn a fyddai'n eu gwneud yn gyfforddus a sut y gallwch chi eu cefnogi orau, a rhoi gwahanol opsiynau iddynt ddewis ohonynt.
Y grefft o newid ieithoedd
Ystyriwch y grefft a'r gost feddyliol o newid rhwng ieithoedd.
Gallai profi gwasanaeth yn Gymraeg wrth siarad â'r ymchwilydd yn Saesneg weithio i rai cyfranogwyr, ond efallai y bydd yn ddryslyd i eraill.
Mae rhai pobl yn hapus gyda chyfieithydd yn cyfieithu popeth maen nhw'n ei ddweud wrth yr ymchwilydd. Dyw eraill ddim mor hapus â hynny.
Byddwch yn glir ac yn benodol am eich nodau, disgwyliadau, a dewisiadau iaith eich cyfranogwr. Mae hyn yn eich helpu i:
- ddeall ym mha iaith y byddent fel arfer yn defnyddio'r gwasanaeth
- cynllunio'r hwyluso a'r fethodoleg gywir ar gyfer y sesiwn
- gwybod a yw'n well ganddynt ddefnyddio un iaith neu newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg
- trefnu unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnoch, gan gynnwys cyfieithydd neu ddehonglydd
Trafodwch wahanol ffyrdd o ddod o hyd i'r ffordd sy'n gweithio orau i'r ddau ohonoch. Gadewch i'ch cyfranogwyr benderfynu beth i'w wneud a sut.
Gweithio gyda chyfieithwyr a dehonglwyr
Mae cyfieithwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar destun ysgrifenedig tra bod dehonglydd yn deall naws yr iaith lafar a chyfathrebu di-eiriau.
Ond mae gan bob un wahanol gefndir, sgiliau a meysydd arbenigedd. Trafodwch y rhain gyda hwy a thrafod sut y gallant eich cefnogi chi a'ch gwaith orau.
Os ydych yn defnyddio cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, dylech eu cynnwys yn eich prosiect gymaint â phosibl fel eu bod yn deall y cyd-destun ac unrhyw derminoleg dechnegol.
Gallant eich helpu gyda gwahanol dasgau, gan gynnwys:
- cyfieithu cyfweliadau a sesiynau profi
- ysgrifennu mewn pâr i ddatblygu deunyddiau'n ddwyieithog
- dadansoddi mewnwelediadau gyda chi
Pennwch ddisgwyliadau clir ynglŷn â sut y gallant eich helpu orau. Er enghraifft, efallai y byddwch am iddynt dalu sylw i giwiau neu wahaniaethau penodol.
Ar ôl y sesiwn ymchwil, trafodwch gyda hwy beth a lwyddodd a beth y gellid ei wella yn y dyfodol. Gallwch wylio'r recordiad gyda'ch gilydd os oes angen unrhyw eglurhad arnoch.
Paratoi eich deunyddiau ymchwil yn ddwyieithog
Sicrhewch fod yr holl ddeunyddiau ymchwil ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys:
- ffurflenni cofrestru
- ffurflenni caniatâd
- canllawiau trafod
- rhestrau geirfa a thermau
Gallwch roi cynnig ar eu hysgrifennu gyda chyfieithydd neu gydweithiwr arall sy'n siarad Cymraeg.
Casglu adborth am eich sesiwn
Efallai y byddwch am gasglu adborth gan bawb yn y sesiwn ymchwil, gan gynnwys:
- ymchwilydd defnyddiwr
- cyfranogwr
- cyfieithydd neu ddehonglydd
Gofynnwch iddynt am eu profiad o'r Gymraeg o fewn a'r tu allan i'r ymchwil hwn.
Gallwch ddefnyddio straeon personol y defnyddwyr i dynnu sylw cydweithwyr a rhanddeiliaid at bwysigrwydd ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg.