Rwy’n ymchwilydd defnyddiwr ac yn gweithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol ystwyth y prosiect llawlyfr gwasanaeth. Rwyf wedi bod yn arwain yr ymchwil i ddatblygu canllawiau ar gyfer bodloni Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru.

O gam darganfod alffa, ac yn awr cam beta, rwyf wedi canolbwyntio ar ddull ymchwil cynhwysol. Yn y blog hwn, byddaf yn rhannu'r heriau yr wyf wedi'u hwynebu wrth gynllunio a chynnal ymchwil gyda phobl sydd ag anghenion mynediad.

Pam mae'r llawlyfr gwasanaeth yn bwysig

Fel y gwyddoch rwy’n siwr, mae llawer iawn o ganllawiau arfer da ar gael ar gyfer dylunio gwasanaethau cyhoeddus digidol – mae hyn yn wych o beth! Ond yr hyn sydd ar goll yw arweiniad wedi'i deilwra i heriau sy’n unigryw i Gymru, yn enwedig o ran y Gymraeg a defnyddwyr sydd ag anghenion mynediad gwahanol.  Dyma le gallwn ni helpu.

Fel rhywun sy'n angerddol dros ymchwil gynhwysol - nid yn unig oherwydd mai dyma fy ngwaith, ond oherwydd bod rheswm dilys iawn dros ddefnyddio’r dull hwn - rwyf o’r farn ein yn bod arwain drwy esiampl yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Ein nod? Sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio i bawb, a sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys.

Meysydd pwysig yn y llawlyfr gwasanaeth

Ar hyn o bryd, rydym wedi rhannu cynnwys y llawlyfr gwasanaeth yn themâu ac rydym yn ceisio deall pa modd ddefnyddiol ydyn nhw i’r defnyddiwr:

  • cynnal ymchwil i’r defnyddiwr er mwyn gallu treialu eich gwasanaeth

  • dylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

  • darparu gwasanaethau mewn ffordd hyblyg

  • defnyddio'r dechnoleg gywir

Ein dull gweithredu

Dechreuodd y cam Beta ym mis Chwefror 2024 ac fe ddechreuon ni gynnal ymchwil gyda defnyddwyr a threialu’r gwasanaethau a gweithio gyda'r Gymuned Ymchwil i Ddefnyddwyr Cymru. Gyda'n gilydd, rydym wedi datblygu cynnwys sy'n edrych yn fanylach ar ffyrdd o gynnal ymchwil defnyddwyr gyda’r defnyddwyr hynny sy’n siarad Cymraeg, mor bwysig ydyw a beth i'w ystyried. Gan ddefnyddio’r cynnwys hwn, rydym yn barod ar gyfer y cam nesaf: profi'r prototeip gyda defnyddwyr.

Cynllun ymchwil ar gyfer profi hygyrchedd

Ein nod ar gyfer y cam hwn o ymchwil defnyddwyr yw gwella defnyddioldeb, hygyrchedd ac effeithiolrwydd llawlyfr y gwasanaeth trwy gasglu adborth gan grŵp amrywiol o ddefnyddwyr, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg a Saesneg a phobl ag anghenion mynediad gwahanol. Yn ystod ein gwaith cynllunio cychwynnol, y nod oedd ceisio cynnwys o leiaf un siaradwr Cymraeg ac un cyfranogwr ag anghenion mynediad fesul cylch ymchwil, gan ganolbwyntio’n bennaf ar brofion hygyrchedd llenwi’r bylchau oedd yn ein hymchwil flaenorol.

Fy nod gyda phrofion hygyrchedd yw deall sut mae cyfranogwyr yn dod o hyd i wybodaeth, asesu strwythur y cynnwys, a nodi unrhyw rwystrau o ran cael at yr wybodaeth honno. Dyma rai cwestiynau pwysig rydym yn eu gofyn:

  • A oes materion hygyrchedd a allai atal y defnyddiwr sydd ag anghenion mynediad rhag defnyddio'r canllawiau?

  • Beth allwn ni ei wneud i wella pa mor ddefnyddiol a hawdd cael atynt yw’r canllawiau?

Rwy'n ceisio llunio disgwyliadau realistig ynghylch recriwtio pobl ag anghenion mynediad. O brofiad, mae hi’n anodd dod o hyd i gyfranogwyr o sector cyhoeddus Cymru neu'r rhai mewn rolau digidol, data a thechnoleg. Rwyf bob amser yn ceisio recriwtio cyfranogwyr perthnasol fel bod ganddynt y profiad perthnasol i ddarparu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw’r cynnwys ond, pan fo angen, rydym yn profi gyda defnyddwyr dirprwyol (pobl nad ydynt yn ddefnyddwyr gwirioneddol y llawlyfr gwasanaeth, neu sydd yn unrhyw un o'r rolau DDaT uchod, ond sydd â dealltwriaeth dda o ddisgwyliadau ein defnyddwyr,  anghenion, problemau parhaus, ac ati). Mae'r profion hyn yn canolbwyntio ar brofi hygyrchedd sut mae cyfranogwyr yn dod o hyd i wybodaeth, eu taith yn gwneud pob tasg, strwythur y cynnwys, a beth allai effeithio ar y modd y maen nhw’n defnyddio’r cynnwys.

Fel y gallwn sicrhau mewnwelediadau amrywiol a pherthnasol i’r dasg, rydym yn recriwtio cyfranogwyr gydag anghenion mynediad amrywiol a gwahanol lefelau o brofiad technolegol. Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl sydd â nam ar eu golwg (e.e. yn ddall, golwg gwan)

  • pobl sydd â nam ar y clyw (e.e. yn fyddar, rhywfaint o glyw)

  • pobl sydd â nam echddygol (e.e. anhawster cerdded, dringo grisiau, codi gwrthrychau)

  • pobl sydd â nam gwybyddol (e.e. anableddau dysgu, awtistiaeth)

  • pobl sydd â nam lleferydd (e.e. anhawster siarad)

Rydym hefyd yn ystyried y technolegau y maen nhw’n eu defnyddio i wneud y dasg, megis darllenwyr sgrin, chwyddwyr, cymhorthion clyw, mewnblaniad yn y cochlea, a meddalwedd adnabod llais.

Argymhelliad gan ein pwyllgor moeseg ymchwil

A’r cynllun ymchwil ar waith bellach, cyflwynais fy awgrym o ran yr ymchwil i'n pwyllgor moeseg ymchwil, rhan hanfodol o’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn CDPS. Fe wnaethant adolygu fy nghyflwyniad yn drylwyr, a chawsom gyfarfod cynhyrchiol i drafod fy nghynllun ac egluro unrhyw bryderon.

Yn ystod ein trafodaeth, fe wnaethom nodi rhai heriau, fel anawsterau recriwtio a'r anallu i gynnal profion hygyrchedd ar Figma – meddalwedd prototeipio. Cyngor y pwyllgor moeseg oedd symud y profion hygyrchedd i ddiwedd y cam beta a rhoi mwy o ran i dîm y wefan yn y cam profi hygyrchedd. Bydd hyn yn ein helpu i ymdrin nid yn unig â safon gwasanaeth a thudalennau arweiniad ond gwefan CDPS gyfan, gan wneud ein profion hygyrchedd gwirioneddol cyntaf gyda defnyddwyr go iawn yn rhai mwy cynhwysfawr. Ar hyn o bryd, rydym yn dibynnu ar adroddiad archwilio'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol, sy'n cynnwys cynghorion rhagorol.

Y camau nesaf

Rhennais argymhellion y pwyllgor gyda thîm y prosiect, a phenderfynu symud ymlaen ar sail y cyngor a gawsom. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cynnal profion hygyrchedd yn yr amgylchedd llwyfannu gwirioneddol (yn ystod cam beta preifat) ac yn ymestyn ein hymchwil i rannau eraill o'n gwefan – i bob pwrpas, byddwn yn gallu cyflawni dau gam ar yr un pryd.

Trwy fynd i'r afael â'r heriau hyn a chanolbwyntio ar gynhwysiant, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwasanaethau digidol gwirioneddol hygyrch. Mae gallu parhau â'r gwaith hwn a chael effaith gadarnhaol ar y sector digidol yng Nghymru yn gyffrous iawn.

Cymryd rhan

Rydym yn cysylltu ag unigolion sy'n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag ymchwil defnyddwyr, dylunio a phrosiectau ystwyth, i brofi ein llawlyfr gwasanaeth a chael mewnwelediad ar sut y gallwn gefnogi eich anghenion yn well.

Os hoffech chi gymryd rhan yn ein hymchwil, e-bostiwch user.research@digitalpublicservices.gov.wales.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych a byddwn mewn cysylltiad cyn bo hir!