Pennu disgwyliadau clir a rhoi dewisiadau i'r cyfranogwyr

Dyw cynnal ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg ddim yn hawdd, yn enwedig os nad ydych yn teimlo'n hyderus neu os nad oes gennych y sgiliau i wneud y cyfan yn rhugl yn y Gymraeg.

Ond mae cyfranogwyr yn aml yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y Gymraeg yn cael ei  hystyried wrth gynnal ymchwil a dylunio gwasanaethau.

Trafodwch yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud, rhowch wahanol opsiynau iddyn nhw a gadewch iddyn nhw benderfynu beth sydd orau ganddyn nhw fel y gallwch chi ddod o hyd i'r ffordd sy'n gweithio i'r ddau barti a'r hyn rydych chi'n gyffyrddus ag ef.

Er enghraifft, efallai y byddai'n well ganddynt:

  • rhoi prawf ar rywbeth yn Gymraeg wrth ei drafod yn Saesneg
  • defnyddio dim ond Cymraeg neu Saesneg
  • trafod pwnc penodol mewn un iaith

Byddwch yn onest gyda'ch cyfranogwr a phennu disgwyliadau clir ymlaen llaw.

Recriwtio yn gynnar ac yn aml

Mae recriwtio cyfranogwyr ymchwil yn cymryd amser, yn enwedig os yw'r pwnc neu'r meini prawf yn arbenigol.

Ystyriwch sut i recriwtio nifer deg ac ystod o gyfranogwyr er mwyn osgoi rhagfarn. Mae'n ddefnyddiol anelu at geisio cael o leiaf 1 defnyddiwr Cymraeg ym mhob cylch ymchwil.

Defnyddio ddigon o amser ac adnoddau ar gyfer cynlluniau cyflawni i gefnogi recriwtio. Byddwch yn rhagweithiol a dechreuwch recriwtio cyn gynted â phosibl. Manteisiwch ar bob cyfle i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer eich ymchwil neu banel defnyddwyr.

Os na allwch ddod o hyd i bobl sy'n defnyddio eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth ac sy'n siarad Cymraeg, gallwch brofi gyda phobl sy'n deall Cymraeg. Fe'i gelwir yn ddefnyddwyr procsi.  Cofiwch na fydd yr adborth a gewch ganddynt yn adlewyrchu yn llawn brofiad y defnyddwyr.

Sgrinio ar gyfer dewisiadau iaith

Pan fyddwch yn recriwtio cyfranogwyr ar gyfer eich ymchwil, bydd angen i chi ddeall eu dewisiadau iaith.

Dylech holi am eu hyfedredd yn y Gymraeg fel y gallwch gael mewnwelediadau perthnasol, ac addasu i'w hanghenion.

Canolbwyntio ar ystod o fathau o ‘bersona’ Cymraeg yn ystod recriwtio, a chynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'n ddwyieithog. Gofynnwch gwestiynau sgrinio penodol i ddysgu am eu dewis iaith:

  • bywyd bob dydd
  • defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau

Rhowch wybod iddynt ymlaen llaw os yw cydweithiwr yn eich helpu, gan gynnwys cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Efallai nad ydyn nhw'n gyfforddus gyda rhywun yn cyfieithu'r hyn maen nhw'n ei ddweud.

Efallai y byddwch am eu sicrhau ei bod yn iawn siarad yn Gymraeg, Saesneg, neu gymysgedd (Wenglish).

Trafodwch y sesiwn gyda'ch cyfranogwyr, gan gynnwys yr hyn a fyddai'n eu gwneud yn gyfforddus a sut y gallwch chi eu cefnogi orau, a rhoi gwahanol opsiynau iddynt ddewis ohonynt.

Y grefft o newid ieithoedd

Ystyriwch y grefft a'r gost feddyliol o newid rhwng ieithoedd.

Gallai profi gwasanaeth yn Gymraeg wrth siarad â'r ymchwilydd yn Saesneg weithio i rai cyfranogwyr, ond efallai y bydd yn ddryslyd i eraill.

Mae rhai pobl yn hapus gyda chyfieithydd yn cyfieithu popeth maen nhw'n ei ddweud wrth yr ymchwilydd. Dyw eraill ddim mor hapus â hynny.

Byddwch yn glir ac yn benodol am eich nodau, disgwyliadau, a dewisiadau iaith eich cyfranogwr. Mae hyn yn eich helpu i:

  • deall ym mha iaith y byddent fel arfer yn defnyddio'r gwasanaeth
  • cynllunio'r hwyluso a'r fethodoleg gywir ar gyfer y sesiwn
  • gwybod a yw'n well ganddynt ddefnyddio un iaith neu newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg
  • trefnu unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnoch, gan gynnwys cyfieithydd neu ddehonglydd

Trafodwch wahanol ffyrdd o ddod o hyd i'r ffordd sy'n gweithio orau i'r ddau ohonoch. Gadewch i'ch cyfranogwyr benderfynu beth i'w wneud a sut.

Gweithio gyda chyfieithwyr a dehonglwyr

Mae cyfieithwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar destun ysgrifenedig tra bod dehonglydd yn deall naws yr iaith lafar a chyfathrebu di-eiriau.

Ond mae gan bob un wahanol gefndiroedd, sgiliau a meysydd arbenigedd. Trafodwch y rhain gyda hwy a thrafod sut y gallant eich cefnogi chi a'ch gwaith orau.

Os ydych yn defnyddio cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, dylech eu cynnwys yn eich prosiect gymaint â phosibl fel eu bod yn deall y cyd-destun.

Gallant eich helpu gyda gwahanol dasgau, gan gynnwys:

  • cyfieithu cyfweliadau a sesiynau profi
  • ysgrifennu mewn pâr i ddatblygu deunyddiau'n ddwyieithog
  • dadansoddi syniadau gyda chi

Pennwch ddisgwyliadau clir ynglŷn â sut y gallant eich helpu orau. Er enghraifft, efallai y byddwch am iddynt dalu sylw i dueddiadau neu naws benodol.

Ar ôl y sesiwn ymchwil, trafodwch gyda hwy beth a lwyddodd a beth y gellid ei wella yn y dyfodol. Gallwch wylio'r recordiad gyda'ch gilydd os oes angen unrhyw eglurhad arnoch.

Paratowch eich deunyddiau ymchwil yn ddwyieithog

Sicrhewch fod yr holl ddeunyddiau ymchwil ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys:

  • ffurflenni cofrestru
  • ffurflenni caniatâd
  • canllawiau trafod
  • rhestrau geirfa a thermau

Gallwch roi cynnig ar eu hysgrifennu gyda chyfieithydd neu gydweithiwr arall sy'n siarad Cymraeg.

Casglu adborth am eich sesiwn

Efallai y byddwch am gasglu adborth gan bawb yn y sesiwn ymchwil, gan gynnwys:

  • ymchwilydd defnyddiwr
  • cyfranogwr
  • cyfieithydd neu ddehonglydd

Gofynnwch iddynt am eu profiad o'r Gymraeg y tu mewn a'r tu allan i'r ymchwil hwn.

Gallwch ddefnyddio straeon personol y defnyddwyr i dynnu sylw cydweithwyr a rhanddeiliaid at bwysigrwydd ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg.