Materion ieithyddol. Gall y straeon rydyn ni'n eu hadrodd, y papurau rydyn ni'n eu hysgrifennu a'r cyflwyniadau a roddwn, ysbrydoli, cymell neu greu rhwystr a dryswch. Er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, mae angen i lawer ohonom newid.

Sefydlwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) i gefnogi newid, ond mae'n anodd gwneud i'r newid hwn ddigwydd yn gyflym.

Rwyf eto i gwrdd â rhywun un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n anghytuno bod angen newid. Mae mwy o alw ar ein gwasanaethau, mae ein cyllidebau’n cael eu cwtogi ac yn aml, ‘ry’n ni’n wynebu heriau o ran dod o hyd i staff a’u cadw - mae hyn yn amlwg ledled sector gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i'n gwasanaethau cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol fod yn gynaliadwy.

Rwyf wedi gweithio yn y maes hwn ers sawl degawd bellach ac mae syniadau ac iaith fodern wedi amlygu ei hun, wedi cael eu mabwysiadu, wedi aeddfedu neu wedi dirywio; neu mae pobl wedi rhoi'r ffidil yn y to. Mae rhai wedi dyfalbarhau, ond efallai nawr yw’r amser i ofyn - a yw’r ffordd ‘ry’n ni’n gweithio yn parhau i fod yn ddefnyddiol a dilys? A yw hi’n amser gofyn: a yw'r iaith a ddefnyddiwn yn dal i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a hynny mewn dull ystyrlon?

Beth yn union yw digidol? Mae pobl yn gofyn y cwestiwn hwn i mi’n aml.

Dyma ddiffiniad CDPS o ddigidol:  

  • gwasanaethau ar-lein rhagorol y mae pobl yn dewis eu defnyddio

  • rydych wedi defnyddio technoleg fel galluogwr

  • pawb yn eich sefydliad yn gyfrifol amdano, nid tîm bach yn unig

  • rydych yn blaenoriaethu anghenion eich defnyddwyr, nid anghenion y sefydliad

  • rydych yn profi a mireinio gwasanaethau yn barhaus er mwyn eu gwella’n barhaus

Ac wrth gwrs, dim ond dechrau'r stori yw hyn. Mewn bywyd pob dydd, digidol yw’r unig ffordd yr ydych yn byw eich bywyd ac yn gwneud pethau. Ond er mwyn i'r sector cyhoeddus gyrraedd y pwynt hwn (mae’n ail natur defnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau), mae talu sylw i fanylion bach yn bwysig.

Yn y darnau ymarferol o waith a wnawn gyda phartneriaid, rydym yn angori ein gwaith digidol yn llawer mwy mewn iaith dylunio a gwella gwasanaethau. Dyna sy'n ysgogi'r rhan fwyaf o bobl rydw i wedi cwrdd â hwy sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sy'n darparu gwasanaethau gwych a dyma’r union ffordd y maen nhw’n mynd ati wneud eu gwaith.

Mae perygl y gall yr ymadrodd 'trawsnewid digidol' ein dieithrio rhag creu rhwydweithiau ac yn lle hynny, ymddieithrio staff sy'n wynebu'r her y mae hyn yn ei chyflwyno. Er enghraifft, dychmygwch staff canolfan alwadau yn colli eu swyddi gan fod y gost fewnol yn cael ei throsglwyddo i dalu am dimau digidol, am data a thechnolegau.

A yw'r ymadrodd 'trawsnewid digidol' yn addas at y diben? A yw wedi dyddio? A yw'n ymadrodd sy’n parhau i ysgogi?  

Rydym oll yn ymwybodol o'r rhwystrau traddodiadol i 'drawsnewid digidol' y cyfeiriwn atynt dro ar ôl tro yn y sector cyhoeddus: Rhannu data ac ansawdd, etifeddu technoleg, diffyg dealltwriaeth a gallu staff, tâl, recriwtio a chadw staff, diffygion cyllid a gweithio mewn seilo. A ddylen ni ychwanegu iaith at y rhestr? A ddylen ni ddechrau datblygu nod cyffredin newydd y gallwn adeiladu arno?