Rydym yn disgrifio ein hunain fel sefydliad dysgu – sefydliad sydd â diwylliant o ddysgu parhaus a throsglwyddo gwybodaeth.

Rydym hefyd yn siarad am weithio mewn dull agored – a ddylai gynnwys ein llwyddiannau a'n methiannau.

Mae bod yn feiddgar ac yn dryloyw yn ddau o werthoedd ein sefydliad. Dyma'r tro cyntaf i ni gynnwys adran ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu.

Dyma ein 10 prif thema ar gyfer y flwyddyn hon:

  1. Er bod creu tîm parhaol wedi cymryd amser, mae wedi talu ar ei ganfed.

Mae nifer ein staff wedi cynyddu o 29 y llynedd i 56 eleni. Mae cael aelodau parhaol o'r tîm wedi helpu i adeiladu ymddiriedaeth a sicrhau cysondeb, nid yn unig rhyngom ni a'n partneriaid, ond rhwng timau o fewn CDPS.

Mae recriwtio cyflym a cymryd amser yn tynnu rhestri byr, cyfweld ac ymgynefinio staff newydd mewn dull priodol, yn ogystal â gwneud y gwaith pob dydd, wedi bod yn anodd ar brydiau, ond mae cael pobl sy'n deall y cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo ac sy'n rhannu ein gweledigaeth wedi rhoi mwy o hyblygrwydd i ni ac wedi arbed arian.

2. Mae dangos yr effaith a gawn yn anodd.

Mae trawsnewid yn cymryd amser – misoedd – blynyddoedd yn aml. Yn aml, y gwaith a amlygir yn yr adolygiad blynyddol hwn yw'r cam cyntaf mewn taith i gael effaith. Gallai hyn fod yn mynd ar gwrs hyfforddi neu'n ymuno â chymuned ymarfer. Ar gyfer ein gwaith cyflawni, rydym wedi gwneud llawer o waith dros y 12 mis diwethaf yn egluro pa ganlyniadau rydym yn gobeithio eu cyflawni a sut rydym yn ei fesur. Byddwn yn parhau i feddwl am yr agweddau hyn wrth ddewis y prosiectau a'r partneriaid y byddwn yn gweithio a hwy yn 2024 a 2025.

Rydym hefyd wedi diweddaru ein pecyn gwybodaeth rheoli a gaiff ei rannu gyda'n bwrdd. Mae'n cynnwys data ansoddol a meintiol sy'n dangos sut rydym yn cyflawni ein hamcanion.

3. Nid yw gwaith ar ein prosesau mewnol bob amser yn weladwy.

Nid yw peth o'r gwaith yr ydym wedi'i wneud y flwyddyn hon wedi bod yn weladwy. Gallen ni fod wedi siarad yn fwy agored amdanyn nhw. Dylid rhannu pethau fel ein prosesau a'n llyfrau chwarae (canllawiau y mae CDPS yn eu dilyn), gyda sefydliadau eraill, fel nad oes rhaid iddynt ddechrau o'r dechrau.

Rydym hefyd wedi lansio ein pwyllgor moeseg, a sefydlwyd yn ddiweddar i sicrhau ein bod yn foesegol yn ein harferion a bod ein hymchwil yn cynrychioli grŵp amrywiol. Mae'r pwyllgor wedi arwain at adolygiad gan gymheiriaid o gynigion ymchwil, gwell arferion ac o ganlyniad, gwell canlyniadau ymchwil.

Mae ein llyfrau chwarae hefyd yn declynnau cymorth pwysig ar gyfer y sefydliad, ein llyfr chwarae cyflwyno a chyfathrebu er enghraifft, amlinellu arfer da ar gyfer y ddwy ddisgyblaeth a helpu gyda chysondeb o fewn CDPS. Mae'r llyfr chwarae cyfathrebu yn amlinellu pwysigrwydd cydymffurfio â'n safonau Cymraeg, beth yw ystyr gweithio mewn dull agored, sut i gyfathrebu'n effeithiol â sleidiau, sut i ddefnyddio ein brand gweledol a thôn llais. Mae wedi bod yn offeryn anhygoel o ddefnyddiol wrth i ni gynnal sesiynau ymgynefino gyda'n aelodau staf newydd.

4. Mae peidio â pharhau darn o waith hefyd yn llwyddiant.

Nid ydym yn berchen ar unrhyw wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ein rôl yw cefnogi sector cyhoeddus Cymru i wella eu gwasanaethau. Ar rai achlysuron eleni, nid ydym wedi bwrw 'mlaen a rhai darnau o waith gan y gallai rhai sefydliadau ddatblygu'r gwaith yn annibynnol, yn dilyn datblygu neu roi ar waith y galluoedd recriwtio priodol.

Mae rhai darnau o waith hefyd wedi cael eu gohirio. Maent yn ddarnau da o waith, sydd naill ai ag argymhellion neu allbynnau gwerthfawr, ond nid oedd yr amseru'n iawn fwrw 'mlaen a hwy, am wahanol resymau, gan gynnwys gwleidyddol ac ariannol.

Rydym hefyd wedi sylweddoli y gallem fod wedi dod a rhai prosiectau i ben yn gynt – a threulio mwy o amser yn myfyrio ar y camau nesaf.

5. Mae'r cymryd amser i ddod i arfer a gweithio mewn dull agored.

Dylai gweithio mewn dull agored gynnwys yr hyn sy'n mynd yn dda, ond hefyd yr hyn rydych chi'n ei ddysgu a'r hyn nad yw'n gweithio cystal. Fel sefydliad, rydym yn euog o ganolbwyntio mwy ar y rhannau sydd wedi mynd yn dda. Wedi'r cyfan, mae dull gweithio Ystwyth yn ymwneud â methu'n gyflym a dysgu o hynny. Fel sefydliad, rydym yn euog o ganolbwyntio mwy ar y rhannau sydd wedi mynd yn dda.

Pan fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar brosiectau, byddem wrth ein bodd yn cael tryloywder llawn, ond nid ydym bob amser wedi cyflawni hyn. Rydym yn barnu hyn fesul achos ac weithiau mae'n dibynnu ar ddiwylliant y sefydliad rydym yn gweithio gyda neu natur sensitif y prosiect. Mae'n rhaid i ni adeiladu ymddiriedaeth gyda'n partneriaid hefyd ac mae hyn yn cymryd amser.

6. Mae angen cynnal mwy o waith ymlaen llaw wrth sefydlu cysylltiadau gyda phartneriaid.

Mae angen i ni wneud mwy o waith ymlaen llaw wrth sefydlu partneriaid ynghylch pwysigrwydd arferion dylunio Hyblyg sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae gweithio gyda ni yn golygu bod angen i ni roi'r defnyddiwr yn gyntaf ac rydym am i sefydliadau siarad am yr hyn y maent yn ei wneud a dysgu o hyn.

Eleni rydym wedi gweithio gyda phobl angerddol iawn , pobl sy'n deall ein methodoleg, ond oni bai y cawn y golau gwyrdd gan yr uwch dim arwain, ni fydd y newidiadau y maent yn eu gwneud yn effeithiol. Rydym wedi cryfhau ein proses flaenoriaethu i sicrhau bod uwch noddwr ar gyfer pob prosiect yr ydym yn ei gefnogi. Mae angen iddynt fod yn rhan o'r broses yn llawn a bod yn berchen ar y gwaith mewn partneriaeth â ni.

7. Y galluoedd cywir yn erbyn rolau digidol, data a thechnoleg.

Ychydig o sefydliadau sydd â thimau digidol, data a thechnoleg llawn yn eu sefydliadau (gan gynnwys ni ein hunain). Ac mae hynny'n ok hefyd. Mae gan y timau amlddisgyblaethol rydyn ni wedi'u ffurfio gymysgedd o alluoedd i gyflawni'r gwaith, ac mae hyn wedi ein harwain at ddarn o waith yn edrych ar y galluoedd hyfyw sydd eu hangen ar dîm i weithio i fodloni Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.

Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau'r galluoedd cywir eisoes, ac mae'n ymwneud â nodi bylchau a lle y gallai fod angen unrhyw hyfforddiant. Gallwn gefnogi uwchsgilio, mentora a hyfforddi trwy ein hyfforddiant a'n cymunedau ymarfer a gallwn gefnogi sefydliadau sydd angen llogi staff parhaol a chontractwyr.

8. Rhaid i bobl fod eisiau ymuno â ni ar y daith hon.

Heb ddeddfwriaeth na safonau gorfodol, bydd cynnydd yn arafach ac yn galetach, rhaid i ni newid y ffordd y mae pobl yn meddwl os ydym am gyflawni newid parhaol.

Er enghraifft, y llynedd, gwnaethom gynnal gweithdy gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Roedd ymrwymiad i weithio gyda'n gilydd a defnyddio cynnwys y byddem yn ei gyd-ddylunio i helpu pobl i lywio cefnogaeth am yr argyfwng costau byw. Ni gododd unrhyw rwystrau. Mae dau fudd i greu cynnwys ar y cyd: Roedd y Grant Prydau Ysgol am Ddim a Hanfodion Ysgol a'r allbynnau yn cynnwys dau ddarn o gynnwys dwyieithog, a brofwyd yn llawn gyda defnyddwyr.

Mae 4 awdurdod lleol yn defnyddio cynnwys y Grant Hanfodion Ysgol a dim ond 2 sy'n defnyddio'r Prydau Ysgol am Ddim a gallai hyn fod amnifer o o resymau, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni.

Yr hyn y gallwn ei reoli yw sut rydym yn adrodd y stori am fanteision y gwaith hwn ac, yn yr achos hwn, sut mae wedi arwain at gydweithrediad gwych gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

9. Mae llai yn aml yn fwy.

Rydym wedi bod yn myfyrio ar y prosiectau rydym wedi gweithio arnynt dros y 12 mis diwethaf. Ar un adeg, roedd dros 25 o eitemau ar ein map ffordd cyflenwi.

Mae ymgymryd â phrosiectau newydd yn cymryd amser. Mae angen iddynt gael eu siapio a'u rheoli, tra hefyd yn cyflawni ar gyfer prosiectau sydd eisoes ar waith.

Mae gennym fap ffordd mwy penodol ar gyfer 2024 i 2025, a fydd yn cael yr effaith a'r dysgu mwyaf y gallwn eu rhannu.

 10. Materion iaith.

Wrth weithio gyda phartneriaid, rydym weithiau'n golygu'r un peth ond yn siarad amdano mewn gwahanol ffyrdd. Efallai na fydd cymhwysiad unigolion a sefydliadau o ddull Ystwyth yn cyd-fynd â'n rhai ni, ond nid yw'n golygu nad ydyn nhw'n cymhwyso rhai o'r egwyddorion. Mae angen i ni wneud mwy o waith ymlaen llaw ar sicrhau ein bod yn deall ein gilydd heb ragdybio mannau cychwyn a lefelau aeddfedrwydd pobl.